YR OLYGFA ODDI UCHOD: Can Mlynedd o Dynnu Lluniau o’r Awyr yng Nghymru


YR OLYGFA ODDI UCHOD: Can Mlynedd o Dynnu Lluniau o’r Awyr yng Nghymru

gan Medwyn Parry


Sgwrs eleni ar gyfer Gŵyl Archaeoleg y CBA.

Y thema ar gyfer Gŵyl Archaeoleg y CBA eleni yw Darganfod Mannau Lleol. Darganfyddwch yr archaeoleg sydd o’ch cwmpas ymhob man drwy astudio awyrluniau o’ch ardal leol. Ar Ddydd Iau, 22 Gorffennaf, am 5pm fe fydd Medwyn Parry, arbenigwr ar ein harchif o awyrluniau, yn dangos yr amrywiaeth anhygoel o olygfeydd manwl o’r awyr sydd yng nghasgliadau’r Comisiwn Brenhinol. Bydd yn trafod cymwysiadau ymarferol ac yn dangos sut y gallwch fanteisio ar yr adnodd rhyfeddol hwn i hybu’ch gwaith ymchwil eich hun.

22 Gorffennaf 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.