Symposiwm Twristiaeth Ysbrydol

Symposiwm Twristiaeth Ysbrydol

Nod y symposiwm hwn yw darganfod ffyrdd o ddenu mwy o bobl i Gymru fel cyrchfan ysbrydol. Bydd y cynadleddwyr yn dysgu am y prosiectau twristiaeth ffydd niferus sydd ar y gweill neu’n cael eu datblygu, yn rhannu gwybodaeth, ac yn trafod amcanion, cyllido, cydgysylltu ac isadeiledd. Cânt eu hannog i drafod unrhyw broblemau maen nhw wedi’u hwynebu wrth greu profiadau twristiaeth ysbrydol, sut y cafodd y problemau eu goresgyn, a beth mae angen ei wneud i sicrhau bod twristiaeth ysbrydol yng Nghymru yn cyrraedd ei photensial diamheuol.

Bydd Croeso Cymru, asiantaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno ei ‘Becyn Offer Capeli’ yn y symposiwm, sy’n rhoi cyngor ar sut i agor addoldai i’r cyhoedd a chynnig croeso i ymwelwyr. Bydd y symposiwm yn llwyfan ar gyfer trafod sut y gallwn ymgysylltu â ‘Chynllun Gweithredu Twristiaeth Ffydd’ (2015) Llywodraeth Cymru a strategaeth twristiaeth newydd Croeso Cymru ‘Croeso i Gymru: blaenoriaethau i’r economi ymwelwyr 2020 – 2025’.

Ein gobaith yw y bydd y symposiwm yn arwain at lunio cynllun gweithredu newydd a chreu Fforwm Pererindota parhaol i Gymru a fydd yn gweithredu fel corff cydgysylltu a gwybodaeth sy’n darparu rhwydwaith hyblyg a chefnogol i bawb sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ysbrydol.

Prifysgol De Cymru sy’n cynnal y seminar, mewn cysylltiad â Cadw, Croeso Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru, ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.

Rydym wrthi’n paratoi’r agenda ar gyfer y diwrnod; ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon copi o’r agenda ac yn gofyn i chi am eich dewisiadau o ran iaith, deiet a mynediad.

Dyddiad: 6 April 2020

Amser: 10:00 to 16:30

Lleoliad: Canolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru, Heol Llanilltud, Trefforest, Pontypridd, CF37 1DL

Mynediad am ddim drwy docyn.