Sesiwn Printio Leino Pendinas!

Rydym wedi trefnu am yr ail dro, yn dilyn sesiwn hynod o hwyliog, gweithdy creu printiau leino rhad ac am ddim! 

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 2 o Fawrth 2024 yn yr Hwb ym Mhenparcau o 10:00 tan 16:00, a chaiff y gweithdy ei arwain gan yr artist lleol, Charlotte Baxter. Techneg argraffu yw creu printiau leino, lle caiff patrwm neu lun ei gerfio mewn bloc o leino a chaiff inc ei daenu dros yr arwyneb. Yna, caiff y blocyn leino ei wasgu ar bapur neu ddefnydd i ddatgelu print unigryw! Caiff gwaith Charlotte ei ysbrydoli gan fyd natur, a chaiff ei denu i fannau lle mae dŵr yn cwrdd â’r tir – mae Bryngaer Pendinas, ei thirwedd ddramatig a’i bywyd gwyllt llewyrchus yn lle delfrydol, felly, i arbrofi â’r dechneg hon! Gallwch greu eich print sydd wedi ei hysbrydoli gan Bendinas gyda ni! 

Ni fydd bwyd yn cael ei ddarparu, felly dewch â’ch pecyn bwyd a’ch diod eich hun. Dim ond 12 lle sydd ar gael yn y gweithdy hwn, felly os hoffech gymryd rhan archebwch eich lle YN AWR! Dewch i fod yn greadigol gyda ni! 

Os fydd angen canslo eich tocyn, rhowch wybod i ni. Mae yna nifer gyfyngedig o docynnau ac fydd gennym restr aros a gallwn roi eich tocyn chi i rywun arall. Diolch!


Tickets

Event map

Additional Information

I gael mwy o wybodaeth

beca.davies@cbhc.gov.uk

Ffôn: 01970 621204

Dilynwch ni FacebookTwitter