O Girmit i Drwydded

Croeso i’n seminarau misol sy’n darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth ehangach am gydraddoldeb, mudo, cydnerthedd, hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth.


Mae'r seminar hon ar thema 'O Girmit i Drwydded' a bydd yn cael ei chynnal ar-lein ar Zoom ar ddydd Iau 18 Ebrill 2024, 5.00pm tan 6.30pm


Prif siaradwyr:

Mae stori Girmityas hefyd yn stori am fuddugoliaeth ewyllys dynol a gwydnwch yn wyneb adfyd a gormes ac yn rhoi neges o obaith.

Mae'r term "Girmitya" yn deillio o'r gair "Cytundeb" (ac yn cael ei ynganu yn aml fel "girmit" neu "girmitiya") ac mae'n gysylltiedig â'r system lafur ymrwymedig a ddaeth ag 1.6 miliwn o lafurwyr Indiaidd i wahanol wledydd trefedigaethol yn ystod y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif yn dilyn diddymu caethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

O dan y system hon, recriwtiwyd llafurwyr Indiaidd o ranbarthau yn India, yn bennaf o lefydd fel Uttar Pradesh a Bihar. Roedd yn ofynnol iddynt lofnodi contract llafur, y cyfeiriwyd ato'n aml fel y "Girmit" neu'r "Cytundeb." Roedd y contract hwn yn eu rhwymo i weithio am gyfnod penodol o amser (pum mlynedd neu fwy fel rheol) o dan amodau a oedd yn aml yn llym ac yn eu hegsbloetio.

Nid oedd modd i’r mwyafrif ohonynt ddychwelyd i'w gwlad enedigol, ac fe wnaethant barhau i weithio ac ymgartrefu yn eu tiroedd mabwysiedig, yn bennaf Fiji, De Affrica, Dwyrain Affrica (Mauritius, Seychelles, Réunion, Tanzania, Kenya ac Uganda), Malaysia, Singapore a'r Caribî (sef Trinidad a Thobago, Guyana, a Suriname).

Digwyddodd y cludo cyntaf ar lafurwyr ymrwymedig ar 18fed Ionawr 1826 ar orchymyn perchnogion planhigfeydd siwgr mewn tiriogaethau trefedigaethol a oedd yn gobeithio am lafur rhad y gellid ei ecsbloetio dan amodau tebyg i gaethwasiaeth ond gydag elfen ffug o barchusrwydd wedi'i ddarparu gan gytundeb. Erbyn 1838, roedd 25000 o lafurwyr Indiaidd wedi'u cludo i Mauritius.

Bydd yr Athro Keshav Singhal MBE CBE yn siarad am brosiect Girmitya yng Nghymru a bydd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, a'r Barnwr Ray Singh yn rhannu eu hatgofion a'u profiadau o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn un o ddisgynyddion Girmitya.


Cysylltwch â ProsiectTAG@cbhc.gov.uk os hoffech gael gwybod mwy. Gobeithio y gwelwn ni chi yno! Ffôn: 01970 621 234

Bydd y sgwrs hon yn cael ei thraddodi yn Saesneg.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.


Bydd y ddarlith yma yn cael ei recordio, ac yn cael ei lanlwytho yn fuan i gyfrif YouTube y Comisiwn Brenhinol.


Tickets

Additional Information