O Fudo I Wydnwch
Croeso i’n seminarau misol sy’n darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth ehangach am gydraddoldeb, mudo, cydnerthedd, hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth.
Mae ein hail seminar ni ar y thema O Fudo i Wydnwch a bydd yn cael ei chynnal ar-lein ar Zoom ar ddydd Mercher 21 Chwefror 2024, 5.00pm tan 6.30pm.
Prif siaradwyr:
Ein prif siaradwyr ni yw’r awduron Amrit Wilson a Bharti Dhir. Bydd y ddau yn siarad am eu profiadau personol a phroffesiynol ‘o fudo i wydnwch’.
Cyhoeddwyd llyfr arloesol Amrit, ‘Finding a voice’, am y tro cyntaf yn 1978 ac enillodd Wobr Goffa Martin Luther King ar gyfer y flwyddyn honno. Drwy drafodaethau, cyfweliadau a sgyrsiau un i un gyda merched o Dde Asia a gynhaliwyd mewn Wrdw, Hindi, Bengali a Saesneg, cofnododd Amrit fywydau a brwydrau merched o Dde Asia ym Mhrydain gan edrych ar berthnasoedd teuluol, effaith mudo, polisïau mewnfudo a’r ddarpariaeth o wasanaethau statudol yn ogystal â'r gwahaniaethu a wynebir yn y gwaith a arweiniodd at ferched yn trefnu rhai o'r brwydrau gwrth-hiliol a dosbarth gweithiol mwyaf eiconig.
Mae’r argraffiad newydd o ‘Finding a voice’ yn cynnwys ffotograffau hanesyddol, a phennod newydd o’r enw ‘In conversation with Finding a Voice: 40 years on’ lle mae merched iau o Dde Asia yn ysgrifennu am eu profiadau eu hunain gan gysylltu â’r rhai sy’n cael eu portreadu yn y llyfr gwreiddiol.
Bydd Amrit yn siarad am sut mae’r patrymau mudo niferus i’r DU, sy’n gymhleth yn aml, boed yn uniongyrchol o is-gyfandir India neu drwy fudo blaenorol i Ddwyrain Affrica, wedi effeithio ar gefndiroedd dosbarth, cast, crefydd a chyfoeth cymunedau De Asia.
Cofiant yw llyfr Bharti, sef ‘Worth’, fel menyw Affricanaidd-Asiaidd a fabwysiadwyd gan deulu Pwnjabi, Sikhaidd, a’i stori am oresgyn hiliaeth, rhywiaeth, problemau iechyd a dianc o Uganda yn 1972 pan aeth Idi Amin ati i alltudio Asiaid.
Bydd Bharti yn siarad am ei phrofiadau personol o oresgyn cael ei hesgeuluso, gwahaniaethu, ac adfyd i ddod o hyd i gryfder mewnol a hunan-werth i greu ei ffawd.
Am y siaradwyr:
Mae Amrit Wilson yn newyddiadurwraig arobryn ac yn ymgyrchydd ar faterion hil a rhywedd ym Mhrydain ac ar wleidyddiaeth De Asia. Mae hi’n un o sylfaenwyr y South Asia Solidarity Group ac ‘Awaaz’ – grŵp o ferched a oedd ar flaen y gad yn y frwydr dros hawliau i ferched Asiaidd yn y 1970au a’r 1980au. Cyhoeddwyd llyfr arloesol Amrit, ‘Finding a voice’, yn 1978 ac roedd yn cofnodi profiadau merched Asiaidd o gariad, priodas, perthnasoedd, cyfeillgarwch yn ogystal ag o hiliaeth ym maes tai, addysg ac o ran y gyfraith.
Mae Bharti Dhir yn weithiwr cymdeithasol cymwys sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant ac yn awdur ‘Worth‘, sef cofiant Bharti fel menyw Affricanaidd-Asiaidd a fabwysiadwyd i deulu Pwnjabi, Sikhaidd, a’i stori am oresgyn hiliaeth, rhywiaeth, problemau iechyd a dianc o Uganda yn 1972 pan aeth Idi Amin ati i alltudio Asiaid. Bydd Bharti yn siarad am ei phrofiadau personol o oresgyn cael ei gadael, gwahaniaethu, ac adfyd i ddod o hyd i gryfder mewnol a hunan-werth i lunio ei ffawd.
Cysylltwch â ProsiectTAG@cbhc.gov.uk os hoffech gael gwybod mwy. Gobeithio y gwelwn ni chi yno! Ffôn: 01970 621 234
Bydd y sgwrs hon yn cael ei thraddodi yn Saesneg.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bydd y ddarlith yma yn cael ei recordio, ac yn cael ei lanlwytho yn fuan i gyfrif YouTube y Comisiwn Brenhinol.