Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol: A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd

5 Rhagfyr, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol

A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd

Gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear).

Amser: 5pm

Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwth, SY23 3BU.

Mynediad am ddim drwy docyn

Teitl darlith eleni yw A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd a chaiff ei rhoi gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear). Fel rhan o’r prosiect CHERISH – Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol – mae ymchwiliadau cyffrous newydd yn cael eu gwneud i ddatgelu cyfrinachau bryngaer Dinas Dinlle cyn iddi gael ei cholli i’r môr. Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar uchafbwyntiau’r gwaith diweddar ar y safle, gan gynnwys cloddiadau 2019 a ddadorchuddiodd un o’r tai crwn mwyaf ei faint a mwyaf cyflawn yng Ngogledd Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn.

Byddwch cystal â nodi y rhoddir y ddarlith hon am 6pm ar 16 Ionawr 2020 ym Mangor hefyd.

Unwaith eto, cynhelir Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ar y cyd â Noswaith Siopa Hwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5.00 ─ 8.00pm. Bydd adloniant, lluniaeth tymhorol a stondinau sy’n gwerthu nwyddau o safon ar gael.

Tickets

Additional Information

I gael mwy o wybodaeth
E-bost: nicola.roberts@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621248

Dilynwch ni
FacebookTwitter