Mapiwch Eich Atgofion o Bendinas!
Rydym wedi trefnu sesiwn mapio eich atgofion o Bendinas gydag Ecolegydd lleol, Chloe Griffiths ar Ddydd Sadwrn y 10fed o Chwefror 2024 yn yr Hwb ym Mhenparcau.
Bydd Chloe yn arwain dwy sesiwn i greu map eich hun o Bendinas wrth edrych ar hen fapiau o’r ardal sydd yn arddangos yr hyn sy’n arwyddocaol i ni. Byddwn yn astudio darlun yr artist Maria Hayes o Bendinas sy’n cael ei arddangos yn yr Hwb, ac ystyried sut mae hi'n defnyddio hanes llafar, cofnodion bywyd gwyllt ac arteffactau i gyfoethogi ei chelf. Byddwn yn rhannu ein hatgofion a'n cysylltiadau ein hunain gyda Phendinas ac yn creu map sydd yn cynrychioli ein hanes personol â’r heneb hon.
Bydd y sesiwn cyntaf yn para o 10yb-12.30yh, a fydd yr ail sesiwn yn para o 1.30yh-4yh. Byddwn yn darparu te, coffi a bisgedi. Fydd hi’n ddiwrnod i’w chofio ble gallwn greu mapiau personol a hollol unigryw sydd yn arddangos ein hoff atgofion o’r Fryngaer arbennig hon. Mae yna le i 10 person ym mhob sesiwn, felly archebwch eich lle yn awr!
Os fydd angen canslo eich tocyn, rhowch wybod i ni. Mae yna nifer gyfyngedig o docynnau ac fydd gennym restr aros a gallwn roi eich tocyn chi i rywun arall. Diolch!
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yna!