Mapio’r Mapiau a Therfynu’r Terfynau: Ymagwedd newydd at ddigido ffynonellau cartograffig hanesyddol o’r 17eg ganrif i’r 19eg ganrif


Mapio’r Mapiau a Therfynu’r Terfynau: Ymagwedd newydd at ddigido ffynonellau cartograffig hanesyddol o’r 17eg ganrif i’r 19eg ganrif

gan Jon Dollery


Mae yna gyfoeth o fapiau hanesyddol o Gymru. Maen nhw’n amrywio o’r arolygon manwl a wnaed gan yr Arolwg Ordnans ar ddiwedd y 19eg ganrif i fapiau ystâd yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Ceir ym mhob ffynhonnell wybodaeth werthfawr am ddefnydd tir, perchenogaeth a nifer yr erwau: darlun manwl o natur y dirwedd ar yr adeg benodol honno. Felly mae astudio’r mapiau amrywiol hyn yn ein helpu i ddeall sut mae’r dirwedd a adnabyddwn heddiw wedi datblygu. Sut bynnag, yr her rydym wedi’i hwynebu erioed mewn perthynas â’r ffynonellau hyn yw sut i’w harchwilio, eu croesgyfeirio a’u holi’n llawn.

Yn y sgwrs hon byddwn yn edrych ar y fethodoleg sy’n cael ei datblygu gan CBHC mewn partneriaeth o fewn prosiect cydweithredol a ariennir gan Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nod y prosiect ei hun yw llwyr ddigido amrywiaeth o ffynonellau cartograffig hanesyddol ar gyfer chwe phlwyf ar hyd y ffin rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Dangosir yn y sgwrs sut y gellir dod â’r holl ffynonellau hyn ynghyd a rhoi bywyd newydd iddynt mewn un amgylchedd GIS cydlynol. Byddwn hefyd yn trafod potensial ac arwyddocâd ehangach posibl y dull hwn ar gyfer y sector treftadaeth a sectorau eraill.

2 Medi, 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.