Mapio Terfynau Hanesyddol yn yr Oes Ddigidol


Mapio Terfynau Hanesyddol yn yr Oes Ddigidol

gan Scott Lloyd


Roedd Cymru’r Oesoedd Canol wedi’i rhannu’n deyrnasoedd, cantrefi a chymydau, yn ogystal â phlwyfi, trefgorddau a maenorau. Mae’r terfynau hyn wedi newid dros amser a gellir deall y broses hon drwy wneud defnydd medrus o fapiau, siarteri, grantiau tir, cylchdeithiau ac archaeoleg dirweddol, gan fanteisio ar yr archifau helaeth sydd ar gael ar gyfer astudio hanes Cymru. Gall technegau digidol ein galluogi i fapio’r terfynau hyn a’r newidiadau iddynt yn fanylach nag erioed o’r blaen. Yn y sgwrs hon byddwn yn egluro’r broses a rhai o’r cymhlethdodau lawer sydd ynghlwm wrthi!

Mae’r ymchwil hwn yn rhan allweddol o’r prosiect Mapio Dwfn Archifau Ystadau, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’i arwain gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae’r Comisiwn Brenhinol, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn bartneriaid yn y prosiect.

13 Ionawr, 2022, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2022 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.