Haf o Ddarganfyddiadau yng Nghymru: Archaeoleg o’r Awyr a gwres mawr 2018 - Bangor

Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol,

Haf o Ddarganfyddiadau yng Nghymru: Archaeoleg o’r Awyr a gwres mawr 2018 - Bangor

gan Dr Toby Driver

17:00

Ystafell Cemlyn Jones (PL2), Pontio, Canolfan y Celfyddydau ac Arloesedd, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ.

Mynediad am ddim drwy docyn.

Ymunwch â Toby Driver ar daith syfrdanol i weld caeau cras Cymru o’r awyr yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2018, pan ymddangosodd ugeiniau o safleoedd archaeolegol newydd eu darganfod fel olion cnydau ac olion crasu. Bydd Toby yn edrych ar ddarganfyddiadau pwysig o bob rhan o Gymru ac yn trafod eu harwyddocâd, gan gynnwys nifer o safleoedd nad ydynt wedi cael eu gweld gan y cyhoedd o’r blaen. Edrychir hefyd ar y diddordeb mawr a ddangosodd y cyfryngau yn sgil y darganfyddiadau, pan ymddangosodd olion cnydau Cymreig ochr yn ochr â digwyddiadau rhyngwladol ar wefan y New York Post.