Haf o Ddarganfyddiadau yng Nghymru: Archaeoleg o’r Awyr a gwres mawr 2018
Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol,
Haf o Ddarganfyddiadau yng Nghymru: Archaeoleg o’r Awyr a gwres mawr 2018
gan Dr Toby Driver
5.30 pm, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mynediad am ddim drwy docyn.
Ymunwch â Toby Driver ar daith syfrdanol i weld caeau cras Cymru o’r awyr yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2018, pan ymddangosodd ugeiniau o safleoedd archaeolegol newydd eu darganfod fel olion cnydau ac olion crasu. Bydd Toby yn edrych ar ddarganfyddiadau pwysig o bob rhan o Gymru ac yn trafod eu harwyddocâd, gan gynnwys nifer o safleoedd nad ydynt wedi cael eu gweld gan y cyhoedd o’r blaen. Edrychir hefyd ar y diddordeb mawr a ddangosodd y cyfryngau yn sgil y darganfyddiadau, pan ymddangosodd olion cnydau Cymreig ochr yn ochr â digwyddiadau rhyngwladol ar wefan y New York Post.
Eleni eto, bydd Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol yn cael ei thraddodi ar noson digwyddiad siopa Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol: Noswaith Siopa Hwyr, 4.30pm ─ 7.30pm a fydd yn cynnwys adloniant, lluniaeth tymhorol, a stondinau sy’n gwerthu detholiad o nwyddau o safon.
Tickets
Additional Information
I gael mwy o wybodaeth
E-bost: nicola.roberts@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621248