Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol - Hillfort and Community 2023: The Pendinas Project


Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol - Hillfort and Community 2023: The Pendinas Project

gan Luke Jenkins a Beca Davies


Cafodd Prosiect Archaeoleg Gymunedol Pendinas, sy’n brosiect cyffrous, ei ddechrau yn ystod gwanwyn 2023 gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed mewn partneriaeth â’r Comisiwn Brenhinol. Mae’r prosiect yn ceisio deall a gwarchod archaeoleg a bywyd gwyllt y fryngaer yn well.

Mae dwy sesiwn gloddio at ddiben archwilio wedi’u cynnal ar y safle eleni dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, sydd wedi bod yn gweithio gyda thîm mawr o wirfoddolwyr a rhaglen lawn o weithgarwch ymgysylltu cymunedol dan arweiniad y Comisiwn Brenhinol.

Mae Luke Jenkins, archaeolegydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a Beca Davies, Swyddog Allgymorth Cymunedol y Comisiwn ar gyfer Prosiect Pendinas, wedi bod yn ymwneud yn llawn â’r prosiect ers y dechrau. Maent mewn sefyllfa dda i roi trosolwg o’r prosiect mor belled, felly, ac yn edrych ymlaen at wneud hynny yn Narlith y Nadolig eleni. Caiff y prosiect hwn ei gefnogi gan y gymuned leol a’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw.

Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2023 am 5pm

Caiff y ddarlith ei chynnal yn fyw yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac ar-lein ar Zoom. Bydd Noson Siopa Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei chynnal o 5pm ymlaen ar yr un dyddiad. 

Ymunwch â ni ar gyfer Darlith y Nadolig eleni, sef Bryngaer a Chymuned 2023: Prosiect Pendinas, gan Luke Jenkins, archaeolegydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a Beca Davies, Swyddog Allgymorth Cymunedol y Comisiwn ar gyfer Prosiect Pendinas.

Cysylltwch â Beca Davies neu Nicola Roberts os hoffech gael gwybod mwy. Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Bydd y sgwrs hon yn cael ei thraddodi yn Saesneg.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.


Bydd y ddarlith yma yn cael ei recordio, ac yn cael ei lanlwytho yn fuan i gyfrif YouTube y Comisiwn Brenhinol.