Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol | The Royal Commission’s Christmas Lecture 2025 - From Air, Land and Sea: Survey and Discovery by the Royal Commission in 2025
Gan | By Louise Barker Dr Toby Driver Susan Fielding & Dr Julian Whitewright
Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae staff Tîm Arolygu ac Ymchwilio y Comisiwn Brenhinol wedi bod yn cofnodi safleoedd a henebion ar draws Cymru. O gapeli hanesyddol i swyddfeydd cyngor sy’n segur, llongddrylliadau sydd wedi’u taro gan y tonnau, temlau Rhufeinig sydd wedi’u claddu ac odynau calch arfordirol sy’n erydu, bydd pedwar o’n Hymchwilwyr yn crynhoi blwyddyn brysur yn y Ddarlith Nadolig. Dyma gyfle i glywed am yr agweddau gorau a’r agweddau gwaethaf ar waith cofnodi archaeoleg ac adeiladau, o ddiwrnodau yn yr haf a dreuliwyd yn hedfan 2000 o droedfeddi uwchlaw wyneb y ddaear, i’r heriau a oedd yn ymwneud ag arolygu adfeilion ynghanol mieri ac arolygu aberoedd mwdlyd pan oedd y llanw ar drai.
The last twelve months have seen staff of the Royal Commission’s Survey and Investigation team documenting sites and monuments across Wales. From historic chapels, derelict council offices and wave-battered wrecks to buried Roman temples and eroding coastal limekilns, this Christmas lecture is a roundup of a busy year from four of our Investigators. Explore the highs and lows of archaeological and buildings recording from summer days spent at 2000 feet in the air, to the challenges of surveying bramble-covered ruins and muddy estuaries at low tide.
Dydd Iau 5pm 4 Rhagfyr 2025 | Thursday, 5pm, 4 December 2025
Bydd y ddarlith hon yn cael ei chynnal yn fyw yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar-lein ar Teams. Bydd Noson Siopa Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei chynnal o 5pm ymlaen.*
This lecture will be held live in the Drwm, National Library of Wales, and online via Teams. The National Library's Christmas Shopping Evening will be held from 5pm onwards.** Ymunwch â ni ar gyfer ein Darlith Nadolig eleni: | Join us for this year’s Christmas Lecture: From Air, Land and Sea: Survey and Discovery by the Royal Commission in 2025
Cysylltwch â Nicola Roberts os hoffech gael rhagor o
wybodaeth | Please contact Nicola Roberts if you would like further information: nicola.roberts@cbhc.gov.uk | nicola.roberts@rcahmw.gov.uk
Gobeithio y gwelwn ni chi yno! | We hope to see you there!
Bydd yr anerchiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg | This talk will be delivered in English
Nifer gyfyngedig o docynnau fydd ar gael a bydd yn rhaid eu harchebu ymlaen llaw| Tickets will be limited and must be booked in advance
* Noson Siopa Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol Trwy’r nos Stondinau amrywiol (Archif Ddarlledu, Prif Gyntedd & Uwch Gyntedd). Rholiau twrci poeth, mins peis a gwin cynnes (Caffi Pen Dinas). Groto Siôn Corn (£2) a gweithgareddau crefft (Ystafell Addysg) 6:45pm Côr Meibion y Mynydd (Prif Gyntedd)
**National Libraray Christmas Shopping Evening All evening
Various stalls (Broadcast Archive, Central Hall & Upper
Central Hall). Hot turkey rolls, mince pies and mulled wine (Pen Dinas
Café).Santa’s Grotto (£2) and craft activities (Education Room) 6:45pm
Meibion y Mynydd Choir (Central Hall)
Bydd pob anerchiad yn cael eu recordio, a byddant ar gael maes o law ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol | All talks will be recorded becoming available in due course on the Royal Commission’s YouTube channel