Cymru Rewllyd Oddi Fry: Archaeoleg ac Archwilio o’r Awyr yn y Gaeaf yng Nghymru

Ymunwch â ni i fwynhau sgwrs gyntaf y Comisiwn Brenhinol yn ei gyfres newydd o ddarlithiau ar-lein.


Cymru Rewllyd Oddi Fry: Archaeoleg ac Archwilio o’r Awyr yn y Gaeaf yng Nghymru

gan Dr Toby Driver


Gall eira weddnewid tirwedd Cymru megis drwy hudoliaeth. Gall yr olygfa oddi uchod fod yn fwy rhyfeddol byth. Gall amodau gaeafol roi hwb mawr i waith archaeolegol o’r awyr wrth i luwchfeydd eira, rhew sy’n dadmer a golau isel y gaeaf gyfuno i ddatgelu’n hynod o eglur wrthgloddiau hynafol, cestyll, a thirweddau ucheldirol. Yn y sgwrs hon fe fydd archaeolegydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol yn mynd â’r gynulleidfa yn uchel i’r awyr uwchben Cymru ar ddyddiau rhewllyd y gaeaf i weld rhai o’r darganfyddiadau dramatig a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

4 Mawrth, 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.