Cwmbrân: ‘Lle mae’r Dyfodol yn Digwydd yn Awr!’


Cwmbrân: ‘Lle mae’r Dyfodol yn Digwydd yn Awr!’

gan Susan Fielding


Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol eleni: Cwmbran: ‘Where the Future is Happening Now!’ gan Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol), ar Ddydd Iau, 9 Rhagfyr am 5pm.

Cafodd Cwmbrân, a ddewiswyd yn hoff Dref Newydd Prydain* yn ddiweddar, ei hadeiladu fel rhan o raglen uchelgeisiol i weddnewid bywydau miliynau o bobl wedi cyni’r Ail Ryfel Byd. Er nad yw’n cael llawer o sylw, mae Cwmbrân yn enghraifft hynod ddiddorol, a hynod bwysig, o sut y cafodd cynllunio a phensaernïaeth eu cyfuno i greu math newydd o dref i’r werin. Yn y sgwrs hon fe olrheinir hanes Corfforaeth Datblygu Cwmbrân ac eglurir pam mae Cwmbrân – man geni’r Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill, lleoliad cwmni cynhyrchu tinsel mwyaf Ewrop, cartref y Wagon Wheel, a phrifddinas parcio di-dâl y byd – mor bwysig yn hanes amgylchedd adeiledig Cymru.

Seilir y sgwrs hon ar y cyhoeddiad digidol ‘Cwmbran New Town: An Urban Characterisation Study’ gan Susan Fielding a fydd ar gael maes o law.

9 Rhagfyr, 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.