Croeso Coflein Newydd! - darganfyddwch sut i gael y gorau o’n gwefan newydd


Estynnir croeso cynnes i chi fynychu lansiad ar-lein Coflein Newydd, ein cronfa ddata ar-lein â nodweddion gwell.


• Cyflwyniadau byr gan staff arbenigol
• Cyflwyniad i’r nodweddion newydd a gwell
• Sesiwn holi ac ateb

Mae’r nodweddion newydd yn cynnwys:
• Gwefan hawdd ei defnyddio sy’n gweithio ar draws pob dyfais
• Mwy na 180,000 o ddelweddau cydraniad uchel chwyddadwy
• Delweddau ac adroddiadau y gellir eu lawrlwytho am ddim
• Cario Coflein yn eich poced – mae nodweddion fel tracio lleoliad a mapiau Arolwg Ordnans manwl yn golygu y gallwch ddod o hyd i wybodaeth am safleoedd archaeolegol ac adeiladau hanesyddol wrth fynd!

Rhowch gynnig ar y wefan: https://coflein.gov.uk/cy/ a dewch â’ch cwestiynau!

Croeso i bawb.

20 Mai, 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyflwyniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.