Cerrig Arysgrifenedig yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru: Cyd-destunau, Cysylltiadau a Hunaniaethau


Cerrig Arysgrifenedig yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru: Cyd-destunau, Cysylltiadau a Hunaniaethau

gan Nancy Edwards


Yn y sgwrs hon fe ganolbwyntir ar gerrig coffa arysgrifenedig o’r bumed ganrif, y chweched ganrif a’r seithfed ganrif gynnar. Mae’r rhain i’w cael mewn gwahanol rannau o Gymru a rhai rhannau eraill o Brydain, ac yn Iwerddon. Maen nhw wedi’u harysgrifennu yn Lladin ac weithiau yn yr wyddor ogam Wyddeleg ac maen nhw’n nodi beddau dynion a rhai menywod. Ystyrir yr amrywiol gyd-destunau tirweddol lle mae’r cerrig i’w cael, yr hyn y gall yr arysgrifau eu dweud wrthym am gysylltiadau ag Iwerddon a’r Cyfandir, a’r hyn a ddatgelant am hunaniaethau newidiol – Rhufeinig, Gwyddelig a Brythonig – yn y cyfnod ôl-Rufeinig, yn ogystal â throedigaeth i Gristnogaeth.

Nancy Edwards yw Cadeirydd Comisiynwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae hi’n Athro Emerita mewn Archaeoleg Ganoloesol ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymrawd yr Academi Brydeinig. Mae’r sgwrs hon yn seiliedig ar ei hymchwil cynharach i gerrig cerfiedig yr Oesoedd Canol cynnar yng Nghymru yr ymgymerwyd ag ef mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales a’r Comisiwn Brenhinol.

3 Mawrth, 2022, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2022 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.