Capeli Anghydffurfiol Cymru: Pensaernïaeth Genedlaethol


Capeli Anghydffurfiol Cymru: Pensaernïaeth Genedlaethol

gan Susan Fielding


Gellid dadlau mai capeli Anghydffurfiol yw’r adeiladau mwyaf eiconig yng Nghymru, ond maen nhw hefyd ymhlith y mathau o adeiladau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu cau, o fynd â’u pen iddynt neu o gael eu dymchwel. O gapeli gwerinol cynnar diwedd yr 17eg ganrif ymlaen, fe fydd ein Huwch Ymchwilydd ar gyfer Adeiladau Hanesyddol yn cloriannu pensaernïaeth y capeli a’i lle yn ein cymdeithas, ac yn trafod sut mae’r Comisiwn Brenhinol yn mynd ati i gofnodi a deall yr adeiladau pwysig hyn.

3 Mehefin, 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.