Byw ar ymyl y dibyn: Datgelu hanes caerau pentir erydol Sir Benfro

Ymunwch â ni ar gyfer yr ail sgwrs yng nghyfres newydd y Comisiwn Brenhinol o ddarlithiau ar-lein


Byw ar ymyl y dibyn: Datgelu hanes caerau pentir erydol Sir Benfro

gan Daniel Hunt


Mae Sir Benfro yn gartref i rai o’r safleoedd arfordirol cynhanesyddol diweddar gorau yn Ynysoedd Prydain. Er eu bod yn gymharol niferus, ni wyddom fawr ddim amdanynt, yn enwedig sut y cawsant eu hadeiladu a’r rhan a chwaraewyd ganddynt yng nghymdeithas y cyfnod. Yn y sgwrs fer hon fe drafodir ymchwil archaeolegol diweddar, gan gynnwys nifer o arolygon newydd a wnaed fel rhan o’r Prosiect CHERISH, ac ystyrir syniadau newydd ynghylch sut y cafodd y caerau eu hadeiladu a dylanwadau posibl a allai esbonio pam y cawsant eu lleoli ar yr arfordir.

1 Ebrill, 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.


Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.