
Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol: A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd - Prifysgol Bangor
16 Ionawr 2020, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol
A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd
Gan fod cymaint o alw, rydym yn cynnig cyfle i fynychu Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ym Mangor. Rhoddir y sgwrs gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) a Dave Hopewell (Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd).
Wedi’i chynnal gan yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor
Amser: 6:00pm
Ystafell Cemlyn Jones (PL5), Pontio, Canolfan y Celfyddydau ac Arloesedd, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ.
Mynediad am ddim drwy docyn.
Gan fod cymaint o alw, rydym yn cynnig cyfle i fynychu Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ym Mangor. Rhoddir y sgwrs gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear). Fel rhan o’r prosiect CHERISH – Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol – mae ymchwiliadau cyffrous newydd yn cael eu gwneud i ddatgelu cyfrinachau bryngaer Dinas Dinlle cyn iddi gael ei cholli i’r môr. Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar uchafbwyntiau’r gwaith diweddar ar y safle, gan gynnwys cloddiadau 2019 a ddadorchuddiodd un o’r tai crwn mwyaf ei faint a mwyaf cyflawn yng Ngogledd Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn.
Byddwch cystal â nodi y rhoddir y ddarlith hon am 5pm ar 5 Rhagfyr 2019 yn Aberystwyth hefyd.
Tickets
Additional Information
I gael mwy o wybodaeth
E-bost: nicola.roberts@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621248