Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr, Cynhadledd 3-4 Tachwedd, 2018

Bydd y gynhadledd ddau ddiwrnod hon yn edrych ar brofiad y llongwyr a chymunedau Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y Llynges Fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi sylw i’r ymchwil a’r prosiectau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod cyfnod y coffáu, ac ysgogi mwy o ymchwil a phrosiectau treftadaeth cymunedol mewn perthynas ag effeithiau hirbarhaol y rhyfel wedi iddo ddod i ben.

Yn ogystal â rhaglen lawn o siaradwyr ar y ddau ddiwrnod, fe fydd arddangosiadau ymarferol, hyfforddiant i ymchwilwyr ar sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein, a thaith dywys drwy Hancock’s Yard dan ofal David James. Cynhelir y gynhadledd ar y cyd ag arddangosfa lawn y Prosiect Llongau-U 1914-18 sy’n cyflwyno hanes y llongddrylliadau o’r Rhyfel Mawr ac yn adrodd y storïau lleol a gasglwyd gan ein partneriaid cymunedol ar hyd a lled Cymru.

Cofrestrwch eich presenoldeb isod.