Gweithdy Gwaddol deuddydd y Prosiect Llongau-U

Gwahoddiad i chi fynychu Gweithdy Gwaddol y Prosiect Llongau-U

Dewch i ymuno â thîm y Prosiect Llongau-U yn ein Gweithdy Gwaddol deuddydd am ddim ym Mhorthaethwy ar 7-8 Medi.

Wedi’i seilio ar eich adborth, bydd y penwythnos yn llawn dop o wahanol sesiynau a fydd o ddiddordeb a defnydd ymarferol i’r sectorau treftadaeth ac arforol fel ei gilydd. Bydd y llu o bynciau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys cynyddu cynulleidfaoedd, denu cynulleidfaoedd mwy amrywiol, allbynnau digidol, ac arolygu ac ecoleg llongddrylliadau. Fe fydd cyfle i fynd ar y llong arolygu y Prince Madog, gweld labordai’r Ysgol Eigioneg, a mwynhau arddangosfa’r Prosiect Llongau-U yn y lleoliad prydferth hwn ar Afon Menai.

Cofrestrwch eich bwriad i fynychu isod.